Hyfforddiant Wordfast

Wordfast

Ydych chi'n gyfieithydd sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am feddalwedd cof cyfieithu, a'r buddion i chi?

Ni yw'r unig ddarparwr hyfforddiant Wordfast yng Nghymru, ac yn un blith dim ond tri yn y DU.

Rhaglen Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur (Computer-Aided Translation (CAT)) yw Wordfast, sy'n cyfuno dwy dechnoleg: segmentiad a Chof Cyfieithu (Translation Memory (TM)).

Mae Wordfast yn ystyried dogfen fel set o segmentau; mae segment fel arfer yn golygu brawddeg. Bob tro bydd segment yn cael ei gyfieithu, bydd yn cael ei storio yn y cof cyfieithu (TM). Felly cronfa ddata o Unedau Cyfieithu (Translation Units (TU)) - parau o frawddegau yn bennaf - yw TM.

Pan fydd Wordfast wedi dod o hyd i segment, bydd yn ei amffinio (delimited), yn chwilio'r TM am gyfieithiad sef cyfatebiaeth union (100%) neu fras i'r segment ffynhonnell. Os bydd yn dod o hyd i gyfatebiaeth, bydd cyfieithiad o'r cof yn cael ei gynnig.

Yn ystod y sesiwn byddwn ni'n edrych ar yr agweddau canlynol ar Wordfast:

  • Cof cyfieithu (TM) - sut i greu un o'r newydd
  • Defnyddio Wordfast i gyfieithu - cyfieithu paragraff o'r dechrau i'r diwedd
  • Eitemau gellir eu gosod (Placeables) - eitemau sy'n gallu cael eu copïo o'r ffynhonnell i'r targed
  • Glanhau ar ôl cyfieithu (Clean-up)
  • Dadansoddi (Analyze) - er mwyn gweld faint o ailadrodd a chyfatebiaeth sydd mewn dogfen heb ei chyfieithu
  • Geirfaoedd - sut i'w creu a'u defnyddio
  • Chwilio cyd-destun (Context search) - chwilio am eiriau neu ymadroddion mewn cofau cyfieithu
  • Cof cyfieithu yn y cefndir (BTM) - sut i greu cof cyfieithu mawr sy'n rhedeg yn y cefndir ac yn cynnig cyfatebiaethau 100% yn unig
  • Alinio (Align) - sut i greu cofau cyfieithu allan o ddogfennau sydd eisoes wedi'u cyfieithu heb ddefnyddio Wordfast
  • Cyfieithu ffeiliau Excel, Access, PowerPoint a HTML
  • Wordfast Pro a Wordfast Anywhere

Mae gennym brofiad o ddarparu hyfforddiant i gyfieithwyr o amrywiaeth eang o sectorau a chefndiroedd, ac rydym wedi trefnu sesiynau hyfforddi Wordfast i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae hyfforddeion sydd wedi talu am, a derbyn, diwrnod llawn o hyfforddiant o leiaf yn gymwys i gael gostyngiad, oddeutu 24%, oddi ar bris trwydded Wordfast pan fyddant yn prynu'r drwydded, heb fod mwy na 3 mis ar ôl eu sesiwn hyfforddi.

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod eich anghenion ymhellach.